Amdan y caffi
Mae Caffi Glyndŵr wedi'i enwi ar ôl y Gymro enwog Owain Glyndŵr, a honnir iddo sefydlu ei Senedd Gymreig yn y fan lle saif Parliment House heddiw. Y dyddiau hyn, mae’r Parliment House yn gartref i Ganolfan Owain Glyndŵr, a Chaffi Glyndŵr a agorwyd gan Sarah Jones yn 2023 yn lle’r bwyty blaenorol, Caffi Alys.
Wrth agor y caffi newydd, cynllun Sarah oedd coginio a gweini bwyd syml, iach, a Chymreig mewn awyrgylch clyd. Heddiw mae’r caffi yn ganolbwynt cymunedol ffyniannus, yn cefnogi cynhyrchwyr a artistiaid lleol, a’r gymuned Fachynlleth. Ar agor bob dydd o fore tan brynhawn, mae pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd yn dod i lawr i ymlacio, sgwrsio, dysgu, a bwyta!
Amdanaf ni -
Sarah ac Arthyr Jones
Mae Sarah ac Arthyr Jones, pileri’r gymuned, wedi byw ym Machynlleth ar hyd eu hoes. Bu Arthyr yn gweithio gyda'r Comisiwn Coedwigaeth tra bod Sarah yn dod o gefndir nyrsio. Mae gan y ddau gariad at fwydo pobl, felly sefydlodd y Caffi Gweilch yn 2010 a'i redeg am saith mlynedd. Unwaith y caeodd Caffi Alys drws nesaf i Ganolfan Glyndŵr, neidiodd Sarah ac Arthyr ar y cyfle i sefydlu eu caffi eu hunain. Maen nhw wedi bod yn rhedeg Caffi Glyndŵr ers blwyddyn bellach, ac wedi bod wrth eu bodd yn gallu darparu canolbwynt i feithrin y gymuned a dysgu twristiaid am hanes a diwylliant eu tref enedigol.
Amdam Fachynlleth
Mae Machynlleth - elwir yn aml yn "brifddinas hynafol Cymru" - yn dref farchnad fechan a hardd wedi'i lleoli yn Nyffryn Dyfi. Mae'r dref fach hon yn llawn hanes; mae'r marchnad dydd Mercher wedi’i rhedeg ers 1291, honnir bod Siarl I wedi lletya yn y Tŷ Brenhinol ym 1643, codwyd cloc enwog y dref ym 1874, a sefydlodd Laura Ashley ei siop gyntaf yma ym 1961. Ac wrth gwrs, pwy allai anghofio Owain Glyndŵr, a goronwyd yn Dywysog Cymru yma yn 1404!
Heddiw mae Machynlleth yn gyrchfan cartref a gwyliau. Mae’r Amgueddfa Celf Fodern (MoMA) a’r Ŵyl Gomedi flynyddol yn arddangos uchafbwyntiau diwylliannol tra bod Biosffer Dyfi yn cynnig amgylchedd naturiol perffaith i’w archwilio. Ac, wrth gwrs, yng nghanol y cyfan mae 'na caffi bach yn gwerthu cacennau cartref.