Yr Hen Senedd-dy
Mae’n bosibl bod rhannau o’r adeilad hwn yn dyddio’r holl ffordd yn ôl i’r 1460au, felly erbyn y 19eg ganrif roedd yr adeilad yn dadfeilio. Ym 1906 prynodd ac adnewyddodd yr AS David Davis y lle i'w ddefnyddio fel cofeb i Owain Glyndŵr a hefyd fel canolbwynt cymdeithasol i'r gymuned. Gosodwyd arddangosfa Glyndŵr yn 2011, y gallwch ymweld â hi heddiw!
Senedd Owain Glyndŵr
Y Cymro olaf i gael ei goroni'n Dywysog Cymru
Cyn dod yn dywysog y gwrthryfelwyr, roedd Glyndŵr yn gyfreithiwr hyfforddedig ac yn filwr i frenin Lloegr. Yn y 1390au hwyr roedd arglwydd cyfagos wedi gwarchae rhannau o'i dir a'i frandio'n llwfrgi gerbron llys brenhinol Lloegr. Anwybyddog Senedd y Brenin apeliadau Glyndŵr am gymorth.
I gymryd materion i'w ddwylo ei hun, yn 1400 ysgogodd Glyndŵr wrthryfel Cymreig yn erbyn coron Lloegr a datgannodd ei hyn yn rheolwr Cymru. Mewn ymateb fe sefydlodd Lloegr gyfreithiau gwrth-Gymreig, gan gyfyngu'n drwm ar allu pobl Cymru i wneud arian, bod yn berchen ar eiddo, amddiffyn eu hunain, a hyd yn oed priodi. Daeth hyn â mwy fyth o Gymry i ochr Glyndŵr. Erbyn 1403 roedd mwyafrif Cymru yn ymladd dros annibyniaeth, ac yn 1404 sefydlodd Owain Glyndŵr ei senedd ym Manchynlleth.
Datganodd Senedd Cymru fod Cymru yn genedl annibynnol a oedd i redeg o dan hen gyfreithiau Hywel Dda. Roeddent hefyd yn bwriadu sefydlu eglwys Gymreig genedlaethol a dwy brifysgol i wasanaethu'r wlad. Fodd bynnag, er gwaethaf angerdd y Cymry a’r cynghreiriau a ffurfiwyd â Ffrainc a’r Alban, dechreuodd y llanw droi.
Roedd Lloegr yn cyfuno tactegau brwydro didostur â gwarchaeau economaidd, ac roedd cynghreiriaid Cymru a Ffrainc yn gwrthod parhau i helpu. Erbyn 1410 roedd y gwrthryfel yn methu, arweinwyr amlwg wedi eu carcharu neu eu dienyddio, ac yn 1412 aeth Glyndŵr i guddio.
Roedd y gwrthryfel wedi difetha Cymru yn economaidd, a Lloegr wedi gosod deddfau gormesol i sicrhau na fyddai gwrthryfel byth yn digwydd eto. Gwrthryfel Glyndŵr oedd y frwydr olaf ar raddfa fawr dros Annibyniaeth Cymru.
Adfer y Senedd-dy
Roedd David Davis yn ddiwydiannwr ac yn AS i Landinam. Ym 1909 comisiynodd George Dickens-Lewis i adfer y Senedd-dy yn Sefydliad yn yr arddull Celf a Chrefft boblogaidd. Cwblhawyd yr Insitute yn 1911 ac yn wreiddiol roedd yn gartref i'r llyfrgell cyn iddo symud ar draws y ffordd. Rhoddwyd yr adeilad i dref Machynlleth ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan y gymuned. Yn 2011 gosodwyd Arddangosfa Owain Glyndŵr yn Senedd-dy.